David Cotterill yn gadael Abertawe
- Cyhoeddwyd

Chwaraeodd Cotterill i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn Azerbaijan yn Hydref 2005
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe a David Cotterill wedi cydsynio i ddiddymu cytundeb yr asgellwr.
Ymunodd Cotterill gyda'r Elyrch yn Ionawr 2010 o Sheffield United am £600,000 yn dilyn cyfnod ar fenthyg yn Stadiwm Liberty.
Ymddangosodd y chwaraewr 24 oed 21 o weithiau yn ei dymor cyntaf, ond dim nod 16 gwaith y tymor diwethaf cyn mynd ar fenthyg i Portsmouth.
Nid yw Cotterill, sydd wedi ennill 19 o gapiau dros Gymru, wedi chwarae i Abertawe y tymor hwn.
Dechreuodd y chwaraewr o Gaerdydd ei yrfa gyda Bristol City cyn symud i Wigan Athletic am £2 filiwn yn Awst 2006.
Chwaraeodd 18 o weithiau mewn deunaw mis yn yr Uwchgynghrair gyda Wigan cyn symud i Sheffield United yng Ngorffennaf 2008.