Cynllun £3m i atal llifogydd yn Rhydyfelin
- Published
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gyfrannu £1.3m at gynllun atal llifogydd yn Rhydyfelin ger Pontypridd.
Bydd yr arian yn rhan o gynllun gwerth £3m i atal llifogydd yng nghyffiniau ystâd Fferm Glyntaf a Stryd Fasarnen.
Mae tua 100 o dai yn Rhydyfelin wedi eu heffeithio gan lifogydd er 1993.
Bydd y cynllun newydd yn gwella'r amddiffynfeydd ar gyfer 280 o dai, Ysgol Gynradd Heol y Celyn, a llwybr seiclo Taith Tâf.
Dywedodd Andrew Morgan, aelod cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am gynllunio at argyfwng ei fod yn croesawu'r arian ychwanegol.
"Mae'r rhan hon o Rydyfelin wedi dioddef o lifogydd ers nifer o flynyddoedd ac rwy'n hapus iawn bod y cyngor wedi diogelu arian gan Lywodraeth Cymru i ddelio â'r broblem," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfrannu £200,000 i'r cynllun, sydd wedi ei gefnogi gan gymorthdaliadau Ewropeaidd gwerth £1.4m.
Mae'r cyngor sir yn amcangyfrif bod Rhydyfelin yn cael ei heffeithio gan lifogydd unwaith bob pedair blynedd.
Bu'n rhaid i fwy na dwsin o bobl symud i lety brys y tro diwethaf i'r ardal gael ei heffeithio gan lifogydd ym mis Mehefin 2009.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths: "Mae un o bob chwe adeilad yng Nghymru dan fygythiad llifogydd ar hyn o bryd.
"Y gred yw bod llifogydd yn achosi difrod gwerth £200m bob blwyddyn.
"Rydyn ni'n derbyn fod mwy o law a lefelau môr uwch yn cael eu hachosi gan newid yn yr hinsawdd a bod y risg o erydiad arfordirol a llifogydd yn debygol o gynyddu'n arwyddocaol yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Ebrill 2011
- Published
- 7 Mehefin 2009