Y Bannau yn lleoliad i ffilm fawr?

  • Cyhoeddwyd

Bydd swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn trafod cais cynllunio i saethu ffilm ar Fynydd y Llan ger Myddfai.

Mae'n debyg bod y cwmni ffilmio am gael codi capel a phlasty ar gyfer y prosiect.

Mae disgwyl i'r swyddogion cynllunio benderfynu ddydd Gwener, Ionawr 13, a ydyn nhw'n argymell y dylid derbyn y cais a'i peidio.

Bydd aelodau etholedig Awdurdod y Parc yn cwrdd yr wythnos ganlynol, Ionawr 20, i roi penderfyniad terfynol.

Yn ôl rhai ffynonellau fe allai'r digwyddiad olygu hwb o £1.4 miliwn i'r economi leol, gyda hyd at at 200 o bobl yn rhan o'r cynhyrchiad dros gyfnod o dri mis.

Mae'r cwmni sy' tu cefn i'r fenter yn gwrthod datgelu eu henw na rhyddhau unrhyw fanylion am y ffilm dan sylw.

Croesawu

Dywedodd Janet Long, asiant sy'n gwneud y cais ar ran y cwmni ffilmio, fod 'na sensitifrwydd masnachol wrth drafod prosiect fel hwn.

"Ond fe allaf gadarnhau y byddai yna wario sylweddol yn lleol, o bosib yn fwy na £1.4 miliwn," meddai.

Deellir bod y cwmni yn awyddus i ddechrau ar y gwaith ddiwedd mis Ionawr ond eu bod hefyd yn ystyried lleoliadau eraill yn Yr Alban.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Huw Morgan, ei fod o'n croesawu'r cais cynllunio.

"Mae e wedi dod a diddordeb mawr i'r ardal mewn cyfnod byr," meddai.

"Dim ond rhyw fis yn ôl cawson ni wybod bod diddordeb - ac mae pethau wedi datblygu ar frys ac mae pawb wedi gweithio yn galed ac ry'n ni'n ei groesawu yn fawr."

Mae Mr Morgan yn credu y byddai'n newyddion da i westai a bwytai'r ardal mewn cyfnod tawel o'r flwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol