BBC Cymru Fyw

Gohirio cwest wedi damwain Llangollen

Published
image copyrightBBC news grab
image captionDywedodd yr heddlu fod y car wedi taro coeden

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaethau dau ddyn a fu farw mewn damwain car ger Llangollen fore Llun.

Roedd Dale Thomas Williams, 18 oed o Riwabon a Jonathan Lee Cassidy Jones, 18 oed, hefyd o Riwabon, yn teithio ym Mwlch yr Oernant i gyfeiriad Llangollen.

Cafodd trydydd dyn oedd yn teithio yn y car Peugeot glas anafiadau i'w frest.

Hyd yn hyn y gred yw bod Mr Williams wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w ben.

Credir bod Mr Cassidy Jones wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w frest.

Mae crwner dros dro gogledd-ddwyrain Cymru, John Gittins, eto i bennu diwrnod ar gyfer y cwest llawn.

Straeon perthnasol

  • Damwain: Dau ddyn lleol wedi marw