Steve Shingler ddim yn gymwys i chwarae i'r Alban

Steve Shingler Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Steve Shingler ei enwi yng ngharfan Yr Alban ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012

Mae'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi dweud wrth Undeb Rygbi Cymru nad yw Steven Shingler yn gymwys i chwarae dros Yr Alban.

Cafodd enw maswr y Gwyddelod yn Llundain ei gynnwys yng ngharfan Yr Alban yr wythnos ddiwetha' ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd hyn, er ei fod wedi chwarae dros dîm dan 20 oed Cymru y llynedd.

Cododd ffrae rhwng Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi'r Alban yr wythnos diwethaf.

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru gŵyn swyddogol oedd yn golygu bod rhaid i'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ymchwilio.

Yn ôl y bwrdd, mae'r rheoliadau yn nodi bod "Steven Shingler wedi ei rwymo i Gymru ac felly yn anghymwys i chwarae i unrhyw wlad arall".

Gwrthod cytundeb

Fe aeth y bwrdd ymlaen i ddweud y gallai'r ddwy undeb rygbi alw ar bwyllgor rheoliadau'r bwrdd i ystyried y mater yn ffurfiol "mewn cydweithrediad a Rheoliad Dau y Bwrdd Rhyngwladol".

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ymateb Emyr Lewis

"Mae'r undeb yn ymwybodol o anghenion adolygiad o'r fath."

Mae Undeb Yr Alban yn bwriadu gofyn i'r Bwrdd ail-ystyried eu penderfyniad.

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan y Bwrdd er bod Shingler yn mynnu iddo "wrthod arwyddo cytundeb" a fyddai'n ei rwymo â Chymru.

Fe wnaeth Shingler chwarae fel olwr dros Gymru yn erbyn Ffrainc y llynedd.

Roedd Cymru a Ffrainc wedi cyhoeddi y byddai gemau dan 20 oed ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwald yn 2011 yn cyfateb i'r ail dîm gan nad oes ganddyn nhw dîm A.

Mam o'r Alban

Mae'r undeb hefyd yn dweud bod hyn wedi ei egluro i'r chwaraewyr cyn y gêm a bod y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn derbyn bod y tîm dan 20 oed yn gydradd â thîm A yn ôl amodau arbennig rheoleiddiad 8 y bwrdd.

Felly dim ond dros Gymru mae'n gymwys i chwarae yn ôl Cymru.

Ond roedd Yr Alban yn hyderus y gallai'r gŵr a anwyd yn Abertawe chwarae iddyn nhw gan fod ei fam wedi ei geni yn Dumfries.

Roedden nhw wedi nodi dwy enghraifft o ddau chwaraewr a gynrychiolodd Cymru dan 20 yn erbyn Ffrainc dan 20 yn 2010, James Loxton a Matthew Jarvis, ond sydd ers hynny wedi eu dewis gan Iwerddon.

Ond dywedodd Cymru bod y sefyllfa yn achos Shingler yn wahanol gan fod statws y gêm yn 2011 yn wahanol i'r un yn 2010.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.