Castell-nedd yn drech na Phort Talbot

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Roedd Castell-nedd yn croesawu Port Talbot i'r Gnoll nos Iau.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen wedi naw munud wrth i Luke Bowen sgorio.

Yn yr ail hanner fe ddaeth yr ymwelwyr yn ôl wrth i Martin Rose (63) a Lee John (65) sgorio o fewn dau funud i'w gilydd.

Ond roedd dwy gôl gan yr eilydd Toby Jones o fewn 10 munud i ddod ar y cau yn golygu mai'r tîm cartref oedd yn fuddugol.

Does 'na ddim newid i leoliad y ddau dîm yn y tabl ond mae Castell-nedd bellach ddau bwynt yn is na Llanelli sydd un safle yn uwch na nhw.

Dydi Castell-nedd ddim wedi colli eu 10 gêm diwethaf.

Nos Iau

Castell-nedd 3-2 Port Talbot

TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Bangor 22 +25 50
2. Seintiau Newydd 22 +28 49
3. Llanelli 22 +24 45
4. Castell-nedd 22 +23 43
5. Bala 21 +8 36
6. Prestatyn 22 -4 28
----------------------------------------------------------------
7. Airbus UK 22 -5 25
8. Lido Afan 21 -9 22
9. Port Talbot 22 -11 22
10. Aberystwyth* 22 -11 17
11.Caerfyrddin 22 -32 13
12. Y Drenewydd* 22 -36 13
* - Y Drenewydd yn ildio 3 phwynt ac Aberystwyth yn ildio 1 am fod â chwaraewyr nad oedd yn gymwys.

Ionawr 12 2012

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.