Angladd Haydn Evans yn Yr Wyddgrug

Haydn Evans Image copyright Other
Image caption Doedd neb wedi gweld Haydn Evans ers Rhagfyr 17

Mae angladd llanc 18 oed o Sir Y Fflint, a foddodd wedi parti Nadolig, yn cael ei gynnal.

Doedd neb wedi gweld Haydn Evans o'r Wyddgrug ers parti gwaith yng ngwesty Carden Park ger Caer ar Ragfyr 17.

Cafodd ei gorff ei ganfod mewn llyn ar dir y gwesty 13 diwrnod yn ddiweddarach.

Mae'r angladd yn Eglwys Y Santes Fair, Yr Wyddgrug, ddydd Gwener.

Fe wnaeth archwiliad post mortem gadarnhau bod Mr Evans wedi boddi ac nad oedd ei farwolaeth yn amheus.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.