BBC Cymru Fyw

Gyrwyr yn wynebu oedi hir ar yr A470 yn Abercynon

Published

Mae modurwyr yn wynebu oedi hir ar ôl gwrthdrawiad ger cylchfan ar ffordd yr A470 yn Abercynon.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle wedi gwrthdrawiad rhwng car a fan tua 7am ddydd Gwener.

Mae ffordd yr A4059 i Aberpennar wedi'i chau i'r ddau gyfeiriad rhwng y cylchfan a ffordd y B4257.

Yn ôl adroddiadau gall y ffordd fod ar gau am beth amser.

Ychwanegodd fod ciwiau hir yn ffurfio ar ffordd yr A4059 a ffordd yr A470 ger cylchfan Abercynon.