Damwain ffordd yn Abercynon: Tri yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherson yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ar ôl gwrthdrawiad ger cylchfan ar ffordd yr A4059 yn Abercynon.
Cafodd dau eu torri'n rhydd o gerbyd ond does dim manylion eto am eu hanafiadau.
Dywedodd yr heddlu fod y ddamwain yn "un ddifrifol".
Am 6.45am cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi gwrthdrawiad rhwng car a fan.
Am gyfnod roedd yr A4059 i Aberpennar wedi'i chau i'r ddau gyfeiriad rhwng y cylchfan a ffordd y B4257 ac roedd ciwiau hir yn y cyffiniau ar yr A4059 a'r A470.
Ail-agorodd yr A4059 am 10.30am.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol