Damwain ffordd yn Abercynon: Gyrrwr wedi marw

Mae menyw 44 oed oedd yn gyrru car Vauxhall Astra coch wedi marw a theithiwr 43 oed mewn fan Peugeot wen mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad fore Gwener.

Aed â thri pherson i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ar ôl y gwrthdrawiad ger cylchfan ar ffordd yr A4059 yn Abercynon.

Cafodd gyrrwr 21 oed y fan fân anafiadau.

Am 6.45am cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi gwrthdrawiad rhwng y car a'r fan.

Am gyfnod roedd yr A4059 i Aberpennar wedi'i chau i'r ddau gyfeiriad rhwng y cylchfan a ffordd y B4257 ac roedd ciwiau hir yn y cyffiniau ar yr A4059 a'r A470.

Ail-agorodd yr A4059 am 10.30am.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111, gan gyfeirio at gyfeirnod 013198.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.