Llofruddiaeth: Dyn yn y llys

Kyle Griffith Image copyright Other
Image caption Roedd Kyle Griffith yn 25 oed

Mae dyn wedi bod yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Bu farw Kyle Griffith, 25 oed, pan gafodd ei daro gan gar yng Nghaerdydd yn gynharach yr wythnos hon.

Roedd Stephen Freye, 22 oed, yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener yn wynebu cyhuddiadau o lofruddiaeth ac o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Cafodd Mr Griffith ei daro gan gar Fiat Cinquecento glas yn Stryd James ym Mae Caerdydd.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ond bu farw yno o'i anafiadau.

Dywedodd y Barnwr Bodfan Jenkins wrth Freye: "Mae hwn yn achos y bydd rhaid ei glywed yn Llys y Goron."

Cafodd Freye ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar Ionawr 23.

Straeon perthnasol