Apêl am Americanes ar goll
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn pryderu am ddiogelwch menyw o America sydd wedi bod ar goll ers iddi ymweld â chyfeillion yng Nghymru.
Y tro diwethaf i Kathryn Barnes gael ei gweld oedd yng Ngorsaf Drenau Abertawe ar Ionawr 4.
Roedd y fenyw 32 oed o Ohio wedi bod yn aros mewn amryw leoedd yn Abertawe, Pontardawe ac Aberdaugleddau ers wythnosau.
Dywedodd ei mam Lisa Schoonover fod ei diflaniad yn "frawychus" a bod ei theulu ar bigau'r drain.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn dilyn sawl trywydd.
Cyrhaeddodd Ms Barnes, sy'n cael ei hadnabod fel Kate, y DU ar Dachwedd 8.
Mae'n 5'7" o daldra gyda gwallt brown ond gallai fod wedi lliwio'i gwallt yn ddu.
Mae ganddi ddau datŵ - baner Prydain ar ei harddwrn a draig ar ei choes.
Y tro diwethaf iddi gael ei gweld roedd yn gwisgo crys du, siwmper lwyd, jîns glas ac esgidiau 'wedge'.
"Pryderus iawn"
Dywedodd Mrs Schoonover sy'n byw yn yr Unol Daleithiau: "Ar Dachwedd 8 gadawodd ein merch am y DU i gwrdd â ffrindiau yr oedd wedi eu cyfarfod ar y wefan gymdeithasol Facebook.
"Y tro diwethaf i ni gysylltu gyda Kate oedd ar Ragfyr 4.
"Ers hynny, mae'r holl wybodaeth cyswllt ar Facebook wedi cael ei dileu.
"Does gennym ddim gwybodaeth o gwbl am ei chyflwr nac ym mhle y mae hi.
"Mae'r cyfeillion yr aeth i ymweld â nhw wedi cydweithredu gyda'r heddlu ond does ganddyn nhw ddim gwybodaeth sydd wedi bod o ddefnydd wrth geisio dod o hyd i Kate.
"Rydym yn caru Kate ac yn bryderus iawn am ei diogelwch.
"Mae peidio gwybod beth sy wedi digwydd iddi yn frawychus i'r teulu cyfan.
"Fel arfer, mae hi'n cysylltu gyda ni, hyd yn oed os mai dim ond i ddweud ei bod yn ddiogel ac yn iach."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu yn Abertawe ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.