Gleision yn ennill ond Scarlets yn colli
- Cyhoeddwyd

London Irish 15-22 Gleision
Roedd y fuddugoliaeth i'r Gleision yn un galed brynhawn Sadwrn, ond yn un sy'n cadw'u gobeithion o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Heineken yn fyw.
Brwydr gicio oedd yr hanner cyntaf. Dwy gic gosb Leigh Halfpenny gadwodd yr ymwelwyr yn y gêm wrth i Adrian Jarvis gicio tair.
Ond yn fuan wedyn daeth unig gais y gêm gyda neb llai na chapten Cymru, Sam Warburton, yn croesi.
Ychwanegodd Halfpenny'r trosiad i agor bwlch dros y gwrthwynebwyr.
Ond fe ddaeth y tîm cartref yn ôl o fewn pwynt diolch i gic Delon Armitage ac roedd rhaid dibynnu ar Halfpenny eto am y pwyntiau.
Daeth tair cic gosb arall iddo i fynd â'r Gleision yn ol i frig eu grŵp.
Scarlets 17-29 Northampton
Pylu mae gobeithion y Scarlets o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Heineken eleni.
Collodd tîm Nigel Davies i Northampton ar Barc y Scarlets er iddyn nhw fod ar y blaen yn gynnar.
Sgoriodd Rhys Priestland bedair gwaith gyda chiciau cosb, ac fe greodd gais i Viliame Iongi.
Ond yn fuan wedi'r egwyl, croesodd Soane Tonga'uiha i'r ymwelwyr, ac fe giciodd Stephen Myler Northampton ar y blaen o bum pwynt.
Er i'r Scarlets bwyso, fe gafodd pas lac ei ryng-gipio ac fe sgoriodd Ben Foden gais hwyr o goroni'r fuddugoliaeth.
Gweilch 44-17 Treviso
Nos Wener, fe wnaeth y Gweilch guro Treviso a chipio pwynt bonws yn Stadiwm Liberty nos Wener.
Er mai prin yw'r gobeithion o gyrraedd y rownd nesa - mae'r canlyniad yn golygu nad yw'r cyfan drosodd eto.
Daeth cais cynnar i Tommy Bowe ar ôl iddo ryng-gipio pas Eoardo Gori ar y llinell hanner.
Roedd yna ddau gais i'r canolwr ifanc Ashley Beck.
Gymaint oedd goruchafiaeth y Gweilch fe welwyd yr ymwelwyr yn ildio dau gais cosb.
Daeth cais arall i Kahn Fotuali'i ar ôl bylchiad Matthew Morgan.