Diwedd cyfnod i un o'n siopau llyfrau Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Caeodd unig siop lyfrau Cymraeg Llanelli, Llyfrau'r Ddraig, ddydd Sadwrn.
Dywedodd y perchennog Euryn Dyfed fod busnes wedi dioddef oherwydd bod cwsmeriaid yn mynd i ganolfan siopau ar gyrion y dref.
"Y broblem yw bod y siopau mawr i gyd wedi symud mas o ganol y dre i Barc Trostre.
"Sdim rheswm i bobl ddod yma i ganol y dre, ma' cwsmeriaid yn dweud taw'r unig reswm i ddod i'r dre yw mynd i'r banc."
Ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin eu bod wedi buddsoddi £60 miliwn wrth geisio adfywio canol y dref.
Yn ôl y Cynghorydd Clive Scourfield, aelod o fwrdd gweithredol y cyngor, mae'r cyngor wedi ymroi yn llwyr i geisio adfywio canol y dref.
"Mae'r cynllun adfywio yn cynnwys sinema, theatr a chanolfan y celfyddydau yn ogystal â chynlluniau i adnewyddu'r llyfrgell ac adeilad hanesyddol Tŷ Llanelli."