Arddangos paneli gwydr Olympaidd
- Published
Mae artistiaid a dylunwyr gwydr wedi cael gwahoddiad i greu panel o wydr i goffáu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain yn 2012 gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe.
Y cyfarwyddyd yw i greu panel gwydr 40cmX40cm gan ddefnyddio'r thema 'Gemau'.
Daeth nifer o gynigion i law cyn y dyddiad cau o Ionawr 15, ac fe fydd y goreuon yn rhan o arddangosfa fydd yn digwydd rhwng Gorffennaf 9 a Medi 23 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Mae'r gystadleuaeth yn ganlyniad cydweithio rhwng Ysgol Wydr Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a'r British Society of Master Glass Painters.
Fe fydd y paneli ar gyfer yr arddangosfa yn cael eu dewis gan banel o bedwar beirniad - un yr un o'r tri chorff uchod ac un o Oriel Mission yn Abertawe.
'Mawreddog'
Dywedodd Chris Bird-Jones, cyfarwyddwr rhaglen wydr Prifysgol Fetropolitan Abertawe:
"Rydym wrth ein bodd i fedru trefnu'r arddangosfa fawreddog, broffesiynol, genedlaethol yma.
"Rydym bob tro'n chwilio am ffyrdd testunol o gysylltu gyda'n cynulleidfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, roedd gennym ffocws creadigol - y DU yn croesawu'r Gemau Olympaidd - gan alluogi ein myfyrwyr i greu paneli newydd i'w dangos ochr yn ochr gyda'r British Society of Master Glass Painters."
Dydd Sul, Ionawr 15 yw'r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth.