Doncaster 0-0 Caerdydd
- Published
Efallai bod eu hymgais i gyrraedd Wembley yng Nghwpan Carling wedi blino tîm Malky Mackay, ond roedden nhw'n ffodus i gael pwynt yn Doncaster.
Mae tîm Dean Saunders wedi ymestyn eu record o beidio colli adre i bum gêm wedi'r canlyniad yma, ond fe fydd y tîm cartref yn ystyried eu hunain yn anffodus i beidio ennill.
Dechreuodd Caerdydd yn dda, ac fe allai Kenny Miller fod wedi sgorio wedi dim ond saith munud.
Arbedodd golwr Doncaster, a dyna'r cyfan y bu'n rhaid iddo wneud am y prynhawn bron.
Yn fuan wedi'r egwyl fe gafodd El Hadji Diouf gyfle euraid i roi Doncaster ar y blaen, ond tro golwr Caerdydd oedd hi i ddisgleirio'r tro hwn.
Fe wellodd Caerdydd yn y deng munud olaf, ond fe ddaliodd Doncaster eu gafael ar bwynt, gan siomi'r prifddinasyddion.
Mae Caerdydd yn dal yn drydydd gan i Middlebrough golli ddydd Sadwrn.