Buddugoliaeth i Wrecsam

Clwb Pêl-droed Wrecsam Image copyright Other

Tamworth 1-2 Wrecsam

Mae Wrecsam yn ôl ar frig Uwchgynghrair Blue Square ar ôl iddynt guro Tamworth o ddwy gôl i un brynhawn Sadwrn.

Aeth Wrecsam ar y blaen wedi dim ond pum munud diolch i gôl Jamie Tolley.

A chyn pen hanner awr, roedd y fantais wedi ei dyblu wrth i Jake Speight rwydo i'r ymwelwyr.

Stori wahanol oedd hi wedi'r egwyl, ac fe ddaeth Tamworth yn ôl o fewn un gôl diolch i Callum Wilson.

Hon oedd yr unig gêm i gael ei chwarae yn Uwchgynghrair Blue Square Bet ddydd Sadwrn, gan fod gweddill timau'r adran yn chwarae yn Nhlws yr FA.

Er hynny fe gafodd gêm Casnewydd yn y tlws yn Worksop ei gohirio am fod y cae wedi rhewi.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. WRECSAM 27 32 62
2. Fleetwood 27 30 60
3. Luton 28 31 54
4. Gateshead 28 7 50
5. Caerefrog 28 28 49
-----------------------------------------------------------------------------------------
20.CASNEWYDD 27 -10 22
21. Alfreton 28 -29 22
22. Kettering 28 -35 22
23. Hayes a Yeading 27 -21 21
24. Caerfaddon 27 -22 18

Ionawr 14, 5.15 pm