Y Bala'n drech na Lido Afan
- Cyhoeddwyd

Roedd Y Bala'n croesawu Lido Afan yn y gêm olaf yn hanner cyntaf tymor Uwchgynghrair Cymru.
Fe aeth y tîm cartref ar y blaen wedi naw munud wrth i Lee Hunt sgorio o'r smotyn.
Ond er i'r tîm cartref reoli pethau felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Ond yna wedi 65 munud, fe ddyblwyd y fantais diolch i gôl Mark Jones.
Daeth nerfau i'r amlwg wrth i'r Bala ildio cic o'r smotyn wedi 78 munud, ac fe rwydodd Andy Hill i'r ymwelwyr i'w gwneud hi'n 2-1.
Ond yna ddau funud cyn y chwib olaf, fe sgoriodd Lee Hunt ei ail yn y gêm i gwblhau hanner cyntaf boddhaol dros ben i'r Bala.
Dydd Sadwrn
Y Bala 3-1 Lido Afan
TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU
Ionawr 12 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol