Cwpan Her: Perpignan 27-13 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Aled Brew gais gwych i godi gobeithion y Dreigiau
Collodd y Dreigiau am y trydydd tro'n olynol yng Nghwpan Her Amlin er gwaethaf perfformiad dewr yn Perpignan.
Y tîm cartref oedd yn rheoli'n llwyr yn yr hanner cyntaf gyda phum cic gosb gan Porical Jerome yn rhoi mantais o 15-3 iddyn nhw ar yr egwyl.
Ond fe darodd y Dreigiau yn ôl wedi'r egwyl gyda chais gwych gan Aled Brew a throsiad Matthew Jones.
Croesodd Charles Geli am gais i adfer y fantais i Perpignan yn syth wedi i Rob Sidoli weld cerdyn melyn, ac er i ddau o chwaraewyr Perpignan ymuno gydag ef yn y cell cosb yn fuan wedyn, methodd y Dreigiau a manteisio.
Fe sgoriodd Robins Tchale-Watchou yn y funud olaf i wrthod pwynt bonws i'r Dreigiau.