Biliau tanwydd yn pryderu 41%
- Cyhoeddwyd

Mae 41% o bobl Cymru yn pryderu na fyddan nhw'n gallu talu eu bil tanwydd nesaf yn ôl arolwg newydd gan elusen Cyngor Ar Bopeth Cymru.
Mae'r arolwg hefyd yn dweud fod 56% yn credu y bydd biliau tanwydd yn rhoi straen ariannol ar y teulu.
Daw'r arolwg ar ddechrau Wythnos Ynni'r mudiad, fydd yn gweld ymgynghorwyr ar draws Cymru yn cynorthwyo pobl ar sut i wario llai ar wresogi eu cartrefi.
Mae nifer o fudiadau gan gynnwys Llais Defnyddwyr Cymru, Ofgan, Which, ac Energy UK yn cefnogi'r ymgyrch.
'Trafferthion dianghenraid'
Dywedodd cyfarwyddwr Cyngor Ar Bopeth Cymru, Fran Targett: "O'r sgyrsiau y mae ein staff yn eu cael bob dydd gyda phobl sy'n cael trafferth gyda'u biliau tanwydd, rydym yn gwybod pa mor anodd yw hi ar y funud.
"Un peth sy'n dod i'r amlwg yw bod pobl yn aml yn cael trafferthion dianghenraid am nad ydyn nhw'n sylweddoli y gallan nhw gael help i insiwleiddio'u tai, neu ddim yn cael y cymorth ariannol sydd eisoes ar gael iddyn nhw."
Ym mis Tachwedd 2011, fe ddaeth wyth gwaith yn fwy o bobl i siarad gyda Cyngor Ar Bopeth i drafod eu biliau tanwydd nag a ddaeth yn ystod Tachwedd 2010.
Mae'r arolwg diweddaraf hefyd yn nodi nifer o bwyntiau :-
- Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ceisio arbed costau tanwydd drwy ddiffodd y gwres (63%);
- Nid yw 41% o bobl Cymru yn gwybod bod cwmnïau ynni yn cynnig cymorth i insiwleiddio'u cartrefi;
- Roedd 71% o bobl oedd yn dweud y byddai biliau tanwydd yn rhoi straen ariannol arnynt ac yn pryderu am eu gallu i dalu'r bil nesaf.
'Problem gymhleth'
Dywedodd Gweinidog Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, John Griffiths: "Mae'r gost gynyddol am danwydd yn golygu bod mwy a mwy o bobl Cymru yn poeni am eu biliau tanwydd.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i daclo tlodi tanwydd, ond mae'n broblem gymhleth ac yn un na all un sefydliad neu lywodraeth ei datrys ar ei phen ei hun."
"Rwy'n falch o gefnogi Wythnos Ynni a fydd yn gweld ystod eang o sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau fod cwsmeriaid yn cael y ddêl orau ar ynni."
Straeon perthnasol
- 4 Ionawr 2012
- 2 Rhagfyr 2011
- 14 Tachwedd 2011
- 12 Rhagfyr 2011