Cynllun dyllu am lo o dan Bae Abertawe?

Bae Abertawe Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Y gred yw y gall hyd at filiwn o dunelli o lo orwedd o dan y bae.

Mae cwmni ynni Clean Coal i wneud cais am ganiatâd cynllunio a thrwydded i dyllu am lo a nwy o dan Fae Abertawe.

Y gred yw y gall hyd at filiwn o dunelli o lo fod yno.

Mae'r cwmni yn prosesu'r glo dan ddaear - gan ei droi'n nwy ond dywed WWF Cymru y dylai'r ffocws fod ar ynni adnewyddol yn hytrach na thanwyddau ffosil.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r Awdurdod Glo, ar ran Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, wedi caniatáu 18 trwydded i gloddio safleoedd o'r fath yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae'r rhan fwyaf o'r safleoedd oddi ar arfordir dwyreiniol Lloegr a'r Alban.

Y drwydded ar gyfer y 77 metr sgwâr ym Mae Abertawe fyddai'r unig un yng Nghymru.

'Miliwn tunnell'

Dywedodd Shaun Lavis, prif ddaearegwr Clean Coal: "Rydyn ni'n disgwyl darganfod hyd at filiwn tunnell o lo ym Mae Abertawe."

Bydd y cwmni yn cynnal profion i geisio dod o hyd i rhwng 30 a 50 tunnell o lo.

Dywedodd y cwmni fod y broses o'i gymharu â llosgi yn cynhyrchu llai o wres a charbon monocsid.

"Dyw'r problemau o gael gwared â lludw sy'n gysylltiedig â phwerdai tân glo ddim yn bodoli ... am fod y rhan fwyaf o'r lludw a gynhyrchir yn aros o dan y ddaear."

Mae'r cwmni yn chwilio am wythiennau glo hyd at 500 metr (1,641 troedfedd) o dan ddaear.

Yn ôl y cwmni, mae gwythiennau o'r fath yn llawer rhy ddwfn i fwyngloddio.

Mae'r broses yn cynnwys tyllu am lo ac yna chwistrellu ocsigen ac aer er mwyn cynnau'r glo.

Swyddi

Mae'r ocsigen yn hylosgi gyda'r nwy sy'n gymysgedd o garbon deuocsid, methan a hydrogen, cyn cael ei drosglwyddo i'r wyneb.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price o Gyngor Abertawe y byddai aelodau o'r cyhoedd yn croesawu'r posibilrwydd o greu swyddi.

"Er hynny, rwyf am weld llawer mwy o ymchwil o ran y broses ac unrhyw effaith amgylcheddol negyddol," ychwanegodd.

Dywedodd y byddai diogelwch trigolion lleol yn holl bwysig wrth storio'r nwy.

Byddai cyflenwad digonol o unrhyw ffynhonnell newydd o nwy, gan gynnwys nwy siâl, o ddiddordeb i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Tanwyddau ffosil

Mae prosesau o'r fath yn cael eu defnyddio yn Awstralia ac Asia Ganol.

Dywedodd Alun James, swyddog polisi'r grŵp amgylcheddol WWF Cymru, eu bod o'r farn fod angen rhagor o waith ymchwil.

"Dylai unrhyw ddefnydd newydd o ynni ffosil sicrhau yn gyntaf fod y modd o gasglu a storio ynni wedi ei berffeithio," meddai.

"Rydyn ni'n dal i feddwl y dylai'r ffocws fod ar ynni adnewyddol yn hytrach na thanwyddau ffosil am fod pryderon ynghylch newid hinsawdd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.