Diffodd tân mewn ffatri
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi diffodd tân mewn ffatri ar ystâd ddiwydiannol.
Cafodd y diffoddwyr eu galw i ystâd ddiwydiannol Wrecsam am 05:19am ddydd Llun.
Dywed y Gwasanaeth Tân fod y tân wedi dechrau mewn ffliw un o'r unedau.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol