Mynegi barn am academi hwylio
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyhoedd yn cael rhoi sylw am gynlluniau cychwynnol Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau yng Nghlwb Hwylio Pwllheli ddydd Mawrth.
Y penseiri Ellis-Williams a Dobson-Owen fydd yn bresennol rhwng 12pm a 8pm.
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, sy'n arwain ar yr economi i Gyngor Gwynedd: "Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar brosiect yr academi gyda gwaith adeiladu i gychwyn yn 2012 a'r prosiect yn cael ei orffen erbyn diwedd 2013.
"Mae'r penseiri wedi dylunio cynlluniau cyffrous ac rydym yn gobeithio y bydd cymaint o bobl leol â phosib yn dod draw i'r diwrnod ymgynghori.
"Y digwyddiad ydi rhan gynta y broses gysylltu, ymgynghori a gwrando ar y gymuned."
£8.3m
Mae'r prosiect gwerth £8.3 miliwn wedi cael £4 miliwn o raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd ac o Gronfa Arian Cyfatebol Targed Llywodraeth Cymru.
Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Heb os, Pwllheli ydi un o brif leoliadau hwylio Ynysoedd Prydain sydd eisoes yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a regatas Prydeinig a rhyngwladol o safon.
"Bydd y datblygiad arloesol hwn yn galluogi Pwllheli i ddenu mwy o ddigwyddiadau o safon uchel yn gyson.
"Ynghyd â'r hwb economaidd, bydd y datblygiad hefyd yn rhoi cyfle i bobl, yn arbennig plant lleol, i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr.
"Bydd hyn yn ei dro yn arwain at fwy o'n pobl ifanc ni'n datblygu gyrfaoedd yn y sector gweithgareddau awyr agored lleol."
Bydd yr arddangosfa yng Nghlwb Hwylio Pwllheli am weddill yr wythnos cyn symud i Neuadd Dwyfor yn y dref yn ystod yr wythnos sy'n dechrau Ionawr 23.
Straeon perthnasol
- 27 Hydref 2011
- 13 Gorffennaf 2011
- 13 Rhagfyr 2010