Actor yn cyhoeddi albwm clasurol

Anthony Hopkins yn gwylio’r CBSO yn ymarfer ei waith Image copyright Other
Image caption Cafodd gwaith Syr Anthony Hopkins ei berfformio’n fyw gan y gerddorfa yn 2011

Mae'r actor enwog o Bort Talbot wedi troi ei sylw at gerddoriaeth ac yn lansio albwm o'i waith cyfansoddol newydd.

Wedi ei ysbrydoli gan ei blentyndod a'i deulu ym Margam, mae Syr Anthony Hopkins wedi bod yn gweithio gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham ar ei gyfansoddiadau clasurol.

Dywedodd yr actor bod ei frwdfrydedd am gerddoriaeth wedi cychwyn yn chwe blwydd oed pan gafodd wersi piano gan Mrs Jeffreys yn ei gartref ym Margam.

Cafodd "Anthony Hopkins Composer" ei gyhoeddi ddydd Llun.

Taniodd ei ddiddordeb mewn cyfansoddi pan ddaeth o hyd i bennod ar gerddorfeydd yng ngwyddoniadur ei dad ac aeth ati i ysgrifennu ei gyfansoddiadau ar bapur llawysgrif chwe cheiniog o siop gerdd Mister Salter yng Nghastell-nedd.

Breuddwyd

Roedd gan ei fam obeithion uchel am yrfa gerddorol ei mab.

"Dwi'n hapus iawn i ddarganfod sgil ychwanegol," meddai Syr Anthony sydd wedi ennill Oscar am ei waith actio.

"Am flynyddoedd dwi wedi breuddwydio am allu troi'r holl beth yn ddeunydd ar gyfer cerddorfa.

"Mae gweld y freuddwyd yn cael ei gwireddu trwy weithio gyda'r gerddorfa a ClassicFM yn rhywbeth dwi'n ei drysori'n fawr iawn."

Ym mis Gorffennaf, gweithiodd gyda'r gerddorfa ar berfformiad o'i gyfansoddiadau.

Mae rhai o'i gyfansoddiadau wedi cael eu defnyddio yn rhai o'i ffilmiau megis Slipstream ac August.

Fe wnaeth enwi un darn o waith, Margam, ar ôl ei fan geni.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.