Cyhoeddi enw y pysgotwr coll

Bad Achub yr RNLI Image copyright Other
Image caption Roedd badau achub lleol yn rhan o'r chwilio

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw'r dyn ddisgynodd o gwch oddi ar arfordir Ynys Môn ddydd Gwener diwethaf.

Fe roddwyd y gorau i chwilio am Steven Craig Robertson, 25 oed, o Dumfries yn yr Alban am 3pm ddydd Gwener.

Bu badau achub a hofrennydd yn chwilio am y pysgotwr ddisgynnodd o'r llong bysgota Y St Amant oddi ar arfordir Ynys Môn yn ystod oriau mân fore dydd Gwener.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan eu bod wedi hysbysu teulu Mr Robertson.

60 milltir sgwâr

Mae'r heddlu wedi cynnal cyfweliadau â chriw'r llong ac mae'r ymchwiliad yn parhau.

Mae'r Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Morol bellach yn arwain yr ymchwiliad.

Derbyniodd y gwasanaethau brys alwad am 2.29am ddydd Gwener ar ôl adroddiadau bod dyn wedi syrthio oddi ar y llong bysgota.

Cafodd pum bad achub eu galw allan, badau achub Caergybi a Phorthdinllaen a alwyd am 2.35am.

Cafodd dau fad achub Bae Trearddur alwad am 3.50am yn ogystal â bad achub arall o Gaergybi.

Roedd Mr Robertson tua 15 milltir (24 cilometr) o'r arfordir.

Bu cychod pysgota lleol yn helpu chwilio'r ardal o tua 60 milltir sgwâr.

Doedd neb wedi gweld Mr Robertson ers 0.45am fore Gwener pan oedd ar y llong tua milltir i'r de o Ynys Lawd.

Mae'n debyg nad oedd yn gwisgo siaced achub.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.