Teulu'n rhoi teyrnged

Kathryn Bartlett Image copyright Other
Image caption Roedd Kathryn Bartlett yn 44 oed

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fenyw fu farw wedi damwain ffordd yn Abercynon ddydd Gwener.

Dywedodd teulu Kathryn Bartlett, 44 oed, o Aberdâr, fod bwlch mawr yn eu bywydau.

Roedd ei char coch Vauxhall Astra mewn gwrthdrawiad â fan Peugeot gwyn ger Cylchfan Abercynon ar yr A470.

Mae dyn oedd yn teithio yn y fan mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

"Byddai Kathryn yn fodlon helpu unrhyw un - roedd hi o hyd yn gwenu," meddai datganiad ar ran y teulu.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 6.40am.

Roedd y fan yn teithio o'r cylchfan i gyfeiriad Aberdâr ac roedd car Ms Bartlett yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Aed â thri o bobl i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr, gan gynnwys gyrrwr 21 oed y fan gafodd fân anafiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111, gan gyfeirio at gyfeirnod 013198.