BBC Cymru Fyw

Nikitta: Rheithgor yn tyngu llw

Published
image copyrightPA
image captionRoedd Nikitta Grender yn 19 oed ac yn disgwyl plentyn o fewn pythefnos
Mae rheithgor wedi tyngu llw yn Llys y Goron Casnewydd yn achos bownsar clwb nos wedi ei gyhuddo o lofruddio a threisio menyw feichiog.
Bydd yr achos yn dechrau ddydd Mercher.
Roedd Nikitta Grender, 19 oed, o fewn pythefnos i roi genedigaeth i ferch fach pan gafwyd hyd iddi'n farw wedi tân yn ei fflat yng Nghasnewydd.
Mae Carl Whant, 26 oed o Gasnewydd, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddio a threisio.
Hefyd mae'n gwadu cyhuddiad o ddinistrio plentyn, hynny yw y drosedd o ladd babi a allai fod wedi ei eni'n fyw, a chynnau tân yn fwriadol.
Diffoddwyr ddaeth o hyd i Ms Grender ar Chwefror 5, 2011 yn ei hystafell wely.
Roedd hi a'i chariad Ryan Mayes, 18 oed, wedi dweud mai Kelsey-May fyddai enw'r babi.