Oedi cyn codi pont newydd dros aber Afon Dwyryd
- Cyhoeddwyd

Fydd y gwaith ar gynllun uchelgeisiol i godi pontydd newydd dros aber afon Dwyryd ym Meirionnydd ddim yn dechrau eleni.
Ym mis Gorffennaf 2010 fe gyhoeddwyd y cynlluniau gan nodi y byddai'r gwaith dwy flynedd yn cychwyn yn 2012.
Ond mae'n debyg na fydd y gwaith ar y cynllun gwerth £20 miliwn yn dechrau tan fis Ionawr 2013.
Mae'r bont bresennol yn 150 oed.
Does dim modd i loriau, bysus na'r gwasanaeth tân ei defnyddio ac mae hyn yn golygu taith ychwanegol o wyth milltir drwy Faentwrog.
Y bwriad ydi codi pont newydd ar gyfer rheilffordd y Cambrian ynghyd â phont arall ar gyfer cerbydau a cherddwyr.
Y bwriad gwreiddiol oedd dechrau ar y gwaith eleni, ond ddechrau mis Tachwedd y llynedd mi ddaru adran gynllunio'r Cynulliad Cenedlaethol alw'r cais i mewn.
Ymgyrchu
Mae'r swyddogion bellach wedi penderfynu y gall Pwyllgor Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri benderfynu ar y cais ac mi fydd yn cael ei drafod ym mis Mawrth.
Mae hynny'n golygu y bydd hi'r Hydref cyn y bydd contractwyr wedi eu penodi ac na all y gwaith ddechrau o ddifri' am flwyddyn arall.
Mae'r Cynghorydd Caerwyn Roberts wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer am bont newydd.
"Mae hwn yn fymrym o siomedigaeth," meddai.
"Rhaid sylweddoli bod y lleoliad yn un sensitif tu hwnt a bod 'na gymhlethdodau.
"Dydan ni ddim yn gwybod a fydd yr Ymddiriedolaeth yn gallu rhyddhau darn bach o dir o'u heiddo er mwyn gwneud y gwaith.
"Wrth edrych ymlaen fe fydd y budd o'r cynllun yn un mawr iawn, a bydd yr arfordir i lawr mor bell â'r Bermo yn elwa.
"Mae'n siom ond mae'n rhaid cael y cyfan yn iawn ac fe fydd hi'n werth aros."
Cymhlethdod
Dywedodd Dafydd Williams, Uwch Reolwr Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am y prosiect, ei fod yn brosiect cymhleth iawn.
"Mae 'na tua saith mater statudol sylweddol i'w ystyried a'i oresgyn," meddai.
"Mae adeiladu'r bont a'i gynllunio yn gymhleth yn beirianyddol ac o ran cyllid mae 'na dair ffynhonnell yr ydan ni'n ddibynnol arno."
Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd 'na drefniant dros dro i yrwyr ac na fydd rhaid iddyn nhw deithio drwy Faentwrog a'u bod wedi prisio opsiwn i wneud hyn.
Fe fydd rhaid i drigolion arfordir Meirionnydd aros am dair blynedd arall felly cyn y cân nhw bont newydd dros Aber Afon Dwyryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2010
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2007