Tân yn dinistrio 10 car yn Wrecsam

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i daclo tân ddifrododd 10 car mewn iard yn Wrecsam.

Cafodd tri o griwiau tân eu galw i ddiffodd y fflamau yn Ffordd Llwyneinion tua 6pm ddydd Llun.

Cafodd swyddogion Adran Diogelu'r Amgylchedd Cyngor Wrecsam eu galw i'r digwyddiad hefyd.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.