BBC Cymru Fyw

Ceisio dod o hyd i fuddsoddwr

Published
image copyrightBBC news grab
image captionMae'r cwmni yn cyflogi 400 o staff yng Nghaerdydd
Mae cwmni Peacocks, sydd a'i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Gwnaed y cyhoeddiad bnawn dydd Mercher.
Mae gan y cwmni tua 611 o siopau yn y Deyrnas Unedig ac yn cyflogi tua 9,600.
Y gweinyddwyr yw Richard Fleming, Chris Laverty, Ed Boyle a Joff Pope o gwmni KPMG.
Dywedodd llefarydd y bydd y siopau yn parhau i fasnachu fel arfer tra eu bod yn ceisio dod o hyd i brynwr neu brynwyr.
Ychwanegodd nad oedd yr un o'r siopau wedi eu cau ac nad oedd unrhyw un wedi ei ddiswyddo.
Dyw Bonmarché business, sy'n rhan o Grwp Peacock, heb ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Roedd gan Peacocks ddyledion o £240 miliwn.
Mae'r cwmni'n cyflogi mwy na 400 yn ei bencadlys yng Nghaerdydd.

Straeon perthnasol

  • Cwmni am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr