Gêm Wrecsam wedi'i gohirio

Mae gêm ailchwarae Wrecsam yn erbyn Brighton wedi ei gohirio oherwydd bod y cae yn Wrecsam wedi rhewi.

Dywed Wrecsam eu bod yn gobeithio cynnal y gêm ar y Cae Ras nos Fory am 7:15pm.

Roedd disgwyl torf o 9,000 i wylio'r gêm yn Nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Dywed gwefan y clwb eu bod yn gobeithio am dywydd mwy ffafriol nos Fercher fydd yn caniatáu i'r gêm gael ei chynnal bryd hynny.

Bydd cefnogwyr yn cael defnyddio tocynnau nos Fawrth ar gyfer y gêm, a bydd y gêm hefyd yn cael ei darlledu ar S4C.

Bydd y tîm buddugol yn wynebu gêm gartref yn erbyn Newcastle yn y bedwaredd rownd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.