Ymosodiadau: 'Angen microsglodion'
- Cyhoeddwyd

Ar ôl ymosodiad ar ei chi tywys mae'r perchennog wedi galw am roi microsglodion mewn cŵn.
Fe wnaeth Rottweiler a daeargi Staffordshire ymosod ar Kirsten Barrett, sy'n ddall, a'i chi labrador Norman y tu allan i'w cartref yng Nghorntwn, Pen-y-bont ar Ogwr.
Cred yr heddlu bod y perchnogion gwreiddiol wedi cefnu ar y ddau gi.
Dywedodd Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion (CCTD) fod gosod microsglodion yn fforddiadwy.
Collodd Norman ran o'i glust a bu rhaid iddo dderbyn triniaeth frys am ei anafiadau.
Roedd merch 7 oed Mrs Barrett yn dyst i'r ymosodiad.
Dywedodd Mrs Barrett fod y tri wedi dioddef o drawma yn dilyn y digwyddiad.
"Yn ôl pob sôn bu'r ddau gi yn ein stryd ers tua deg o'r gloch y noson gynt," dywedodd Mrs Barrett wrth BBC Cymru.
"Neidiodd y Rottwiler at Norman gan ddechrau ei gnoi a'i ysgwyd.
"Dywedais wrth fy merch i gerdded ymlaen tra ceisiais ddod rhwng Norman a'r ci arall ond roedd y Rottweiler yn rhy gryf a chefais fy nghnoi ar fy llaw ac ar fy nghoes.
"O'r diwedd llwyddais i dywys Norman i dŷ cymydog ond bu'r Rottweiler yn neidio at ffenest mewn ymdrech i ymosod arno eto."
"Gallai'r canlyniad wedi bod yn llawer gwaeth a dwi'n ddig iawn gyda'r sawl sy'n gyfrifol am adael i'r ddau gi grwydro yn rhydd ar y strydoedd."
Ar gyfartaledd mae yna ymosodiadau gan gŵn ar gŵn tywys saith gwaith y mis yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae chwe digwyddiad o'r fath wedi eu hadrodd yng Nghymru yn y 18 mis diwethaf.
Dywedodd James White, Pennaeth Ymgyrchoedd CCTD: "Mae pobl sy'n gwrthwynebu ein galwad i osod microsglodion mewn cŵn yn honni y byddai'r cynllun yn rhy gostus ac yn rhy fiwrocratig ond mae microsglodyn yn costio tua £10-£15.
"Hyd yn oed pe bae chi'n ychwanegu'r gost o weinyddu cronfa ddata genedlaethol fyddai'r cynllun yn dal yn fforddiadwy iawn.
"Hefyd, rydyn ni'n galw ar y lluoedd heddlu i gymryd ymosodiadau o'r fath o ddifrif.
"Dwi ddim yn ymwybodol o'r un perchennog ci yn cael ei erlyn wrth ystyried yr 147 o ymosodiadau gafodd eu hadrodd rhwng mis Mehefin 2010 a mis Rhagfyr y llynedd."
Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi lansio cynllun ymgynghorol ynglŷn â gosod microsglodion yn orfodol mewn cŵn ond dyw'r Llywodraeth ddim wedi gwneud ymrwymiad pendant ynglŷn â deddfwriaeth newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn nes at gyflwyno mesur gerbron y Cynulliad ac fe fyddai cyfnod ymgynghori yn cael ei gynnal yn gynnar yn 2012.
Straeon perthnasol
- 19 Rhagfyr 2011
- 12 Hydref 2011
- 23 Tachwedd 2011