Darlun cymysg wedi achosion o'r norofirws

  • Cyhoeddwyd
NorofirwsFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Mae achosion o'r Norofirws wedi dod i'r amlwg yn ysbytai Caerdydd a Bro Morgannwg

Mae swyddogion yn dweud bod y sefyllfa yn gwella wedi achosion o'r norofirws yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Ond mae'r haint yn dal i effeithio ar bum ysbyty yng ngogledd Cymru, gyda nifer o wardiau yn parhau ynghau neu wedi'u cau yn rhannol i gleifion newydd.

Mae'r norofirws yn heintus dros ben ac yn achosi cyfog, chwydu a dolur rhydd.

Mae'r symptomau yn dechrau rhwng 12 a 48 awr wedi i'r person gael ei heintio ac yn para rhwng 12 a 60 awr.

Mae chwe ward ar gau yn rhannol yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Mae tair ward wedi eu taro yn Ysbyty Gwynedd, Bangor a dwy ward yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, gan gynnwys y ward asesu.

Mae 'na effaith hefyd ar wardiau yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi ac Ysbyty Llandudno.

Yn ne Cymru, dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eu bod wedi "cymryd camau priodol" i atal y firws rhag lledu, gan gynnwys cau rhai wardiau ar gyfer cleifion newydd a chyfyngu amseroedd ymweld mewn rhai wardiau.

Dyw'r bwrdd ddim wedi datgan faint o bobl sydd wedi'u taro gan yr haint, gan ddweud bod y sefyllfa yn newid yn ddyddiol.

Yng ngogledd Cymru, dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddai'n rhaid disgwyl am 48 awr ar ôl i'r claf olaf ddangos symptomau'r firws, cyn y byddai cleifion newydd yn cael eu derbyn i wardiau.

Mae 'na gais i bobl sy'n arddangos y symptomau i gadw draw o ysbytai am o leiaf 48 awr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol