Damwain: Anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ag anafiadau difrifol oherwydd damwain gyda pheiriant ar Ynys Môn.
Aed ag e mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans ei alw i Fodedern am 10.55am am fod darn o beiriant wedi mynd drwy ei goes.
Galwyd am help tîm trawma o Ysbyty Gwynedd, yr heddlu a'r frigad dân.