Gemau Uwchgynghrair Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe ddaeth rhan gyntaf Uwchgynghrair Cymru i ben dros y penwythnos wrth i'r Bala guro Lido Afan o 3 gôl i 1 ar Faes Tegid.
Mae'r gynghrair erbyn hyn wedi ei rhannu yn ddwy.
Cafodd trefn gemau am weddill y tymor eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
Fe fydd gêm gyntaf Bangor yn eu cartref newydd yn gweld y Dinasyddion yn croesawu Prestatyn i Nantporth ar Chwefror 4.
Prestatyn oedd gwrthwynebwyr olaf Bangor ar Ffordd Farrar ar Ragfyr 27 2011.
Collodd yr ymwelwyr o 5 gôl i 3.
Bydd gêm olaf y Pencampwyr presennol, Bangor, yn erbyn Y Seintiau Newydd ym Mharc Hall, yr un gêm a ddaeth a'r gynghrair i ben y llynedd er bod y gêm ar Ffordd Farrar.
Fe fydd y gynghrair yn ail gychwyn nos Wener Chwefror 3 wrth i Lido Afan groesawu Aberystwyth adlais o gêm ddydd Sadwrn yng Nghwpan y Gynghrair.
Fe fydd Rownd Gyntaf Cwpan y Gynghrair yn cael ei gynnal dros y penwythnos.
TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU
Ionawr 14 2012