Damwain reilffordd: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd

Dywedodd yr Heddlu Trafnidiaeth nad oedd amgylchiadau amheus.
Mae dyn wedi marw ar ôl i drên ei daro brynhawn Mawrth.
Cyhoeddwyd ei fod yn farw yn y fan a'r lle.
Roedd y ddamwain am 4.15pm yng Nghil-y-coed a'r trên oedd yr un i Nottingham adawodd Gaerdydd am 3.45pm.
Ar hyn o bryd does dim Trenau Cross Country rhwng Caerloyw a Chaerdydd ac mae gwasanaeth bws yn lle Trenau Arriva Cymru rhwng Cheltenham a Chaerdydd.
Dywedodd yr Heddlu Trafnidiaeth nad oedd amgylchiadau amheus.
"Mae ymchwiliad ar y gweill ac rydyn ni'n ceisio adnabod y corff," meddai llefarydd.
"Ar hyn o bryd mae ffeil yn cael ei pharatoi ar gyfer y crwner."