BA: Gwrthod creu canolfan newydd yn Sain Tathan
- Cyhoeddwyd

Mae British Airways wedi penderfynu peidio ag ehangu eu gwaith cynnal a chadw yng Nghymru.
Mae'n golygu na fydd canolfan newydd yn cael ei hadeiladu yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg.
Roedd y ganolfan arfaethedig yn un o nifer o opsiynau oedd yn cael eu hystyried wrth i'r cwmni gynllunio ar gyfer mwy o waith eleni.
Mae BA yn cyflogi mwy na 1,000 o bobl yn eu canolfan cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd.
Bu miloedd o beirianwyr awyrennau'r Awyrlu yn gweithio yng nghanolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan.
Mae gwaith cynnal a chadw o hyd yn achos awyrennau VC10 yr Awyrlu ond y disgwyl yw y bydd y gwaith yn dod i ben ym mis Chwefror.
'Siomedig'
Dywedodd llefarydd ar ran British Airways: "Fe fyddwn ni'n dal i ystyried nifer o opsiynau wrth i ni geisio ehangu ein busnes yn ne Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig â'r penderfyniad".
Yn 2009 cafodd y weinyddiaeth ac awdurdodau Cymru eu beirniadu gan Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Swyddfa Archwilio Cymru wedi iddyn nhw ganfod fod cynllun atgyweirio awyrennau yn Sain Tathan wedi costio £113 miliwn ac wedi methu â chreu miloedd o swyddi.
Dechreuodd cynllun Y Ddraig Goch yn 2000 gyda'r nod o foderneiddio cyfleusterau'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan ac adeiladu awyrendy gwerth £77 miloedd i atgyweirio awyrennau'n gyflym.
Ac ym mis Hydref 2010 cafodd cynllun i greu academi hyfforddi gwerth £14 biliwn fyddai wedi creu 2,000 o swyddi ei ddileu fel rhan o gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri'r gyllideb amddiffyn o 8%.
'Bradychu'
Ar y pryd, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y penderfyniad wedi "bradychu pobl Cymru".
Ond dywedodd David Cameron ar y pryd y byddai opsiynau eraill yn cael eu hystyried.
"Nid yw hyn yn ddiwedd y daith i Sain Tathan," meddai wrth Aelodau Seneddol.
Ym mis Gorffennaf 2011 cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai mwy o aelodau'r awyrlu yn cael eu lleoli yn Sain Tathan.
Straeon perthnasol
- 13 Hydref 2010
- 24 Ebrill 2000