Plant yn dysgu Lladin mewn ysgol yn Ninbych
- Cyhoeddwyd

Mae ysgol Howell's yn Ninbych wedi dechrau dysgu Lladin i'w disgyblion saith mlwydd oed.
Meddai Emma Jones, Pennaeth Academaidd yr ysgol annibynnol: "Wedi sawl blwyddyn o ddirywiad mae pobl wedi sylweddoli bod hi'n fuddiol dysgu Lladin oherwydd ei bod yn agor drysau i'r disgyblion.
"Rydym wedi ei gyflwyno i ddisgyblion saith mlwydd oed oherwydd bod plant oedran iau yn medru dysgu ieithoedd yn well ac yn gyflymach."
Dywedodd Ms Jones y byddai'r ysgol hŷn hefyd yn dechrau dysgu'r iaith ym mis Medi.
Dywedodd yr athrawes Lladin, Daniela Molinari: "Mae Lladin yn ddefnyddiol wrth ddysgu ieithoedd eraill ac mae'n dysgu'r disgyblion i feddwl yn rhesymegol ac i ddeall y ffurfiau gwrywaidd, benywaidd a lluosog.
"Mae fy merch yn rhugl yn y Gymraeg ac mae yna sawl gair Cymraeg sydd yn dod o'r Lladin."
Ymhlith y geiriau Cymraeg sydd yn dod o'r Lladin mae 'ffenestr' ('fenestra' yn Lladin), 'eglwys' ('ecclesia') a 'bresych' ('brassica').
Mae gan yr iaith ei chefnogwyr ymhlith enwogion hefyd, gyda JK Rowling wedi defnyddio geiriau Lladin yng nghyfres Harry Potter a maer Llundain, Boris Johnson, o blaid ei dysgu.
Yn ogystal mae gan yr actores Angelina Jolie a'r chwaraewr pêl-droed David Beckham tatŵs yn Lladin.