Ffrindiau Llwybr Arfordir Ynys Môn yn ennill gwobr

Llwybr Arfordir Ynys Môn Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Llwybr Arfordir Ynys Môn 125 milltir o hyd

Mae Ffrindiau Llwybr Arfordir Ynys Môn wedi ennill Prif Dlws Gwobrau Cymru Daclus.

Roedden nhw yn erbyn 28 o grwpiau cymunedol ac ysgolion mewn naw adran.

Dywedodd John Payne, ysgrifennydd y grŵp: "Rydyn ni wrth ein boddau ... mi fydden ni'n gwneud hyn heb wobr - mae'r gwaith yn wobr yn ei hun."

Roedd y grŵp hefyd yn fuddugol yn yr Adran Gwella Arfordir.

Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, gyflwynodd y gwobrau mewn seremoni yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd.

Yn falch

Dywedodd Mr Payne y byddai aelodau eraill y grŵp yn falch ac yn barod i wneud mwy o waith.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r grŵp wedi casglu mwy na 400 o fagiau sbwriel.

"Hefyd rydym yn gwella arwyddion ar hyd y llwybr ac yn ceisio ei wella ar gyfer ymwelwyr a phobl leol," meddai Mr Payne.

"Mae pethau tebyg yn digwydd dros Gymru. Mae 'na lawer o frwdfrydedd ac os yw un neu ddau o bobl yn dod at ei gilydd mae'n hel momentwm.

"Mae'n fraint bod yn rhan o hyn a'r llwybr ei hun yw'r gwir enillydd."

Mae Gwobrau Cymru Daclus yn cydnabod grwpiau cymunedol, ysgolion a mudiadau gwirfoddol sy'n gwneud ymdrech wirioneddol a pharhaol i adfer yr amgylchedd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.