Ysbyty: Cau uned newydd-anedig dros dro
- Cyhoeddwyd

Fydd uned newydd-anedig yn Ysbyty Singleton, Abertawe, ddim yn derbyn rhagor o famau beichiog am y tro oherwydd bod y gwlâu yn llawn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ysbyty bod y nifer uchel o enedigaethau yn cael effaith ar uned famolaeth gyffredinol yr ysbyty.
Mae rhai mamau beichiog, sydd â lefel risg uchel, wedi eu symud i ysbytai eraill.
Mae'r uned newydd-anedig yn trin babanod sâl.
Yn ôl y llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae'r rhan fwyaf o fabanod yn cael eu geni'n iach, a does dim angen uned newydd-anedig.
"Ond lle mae yna risg dylai'r mamau beichiog sicrhau eu bod yn rhoi genedigaeth lle mae 'na fodd cael mynediad i uned newydd-anedig - rhag ofn bod eu babi angen hynny.
"Rydym yn gwerthfawrogi bod hyn yn achosi pryder ac rydym yn annog merched beichiog, sy'n poeni, neu sydd angen gofal meddygol, i gysylltu fel arfer ar y rhifau arferol.
"Mae'r gwasanaeth newydd-anedig yn gweld cyfnodau distaw a phrysur, ac rydym yn cadw golwg ar ba mor aml mae'n mynd yn brysur."
Straeon perthnasol
- 15 Rhagfyr 2011
- 13 Rhagfyr 2011
- 25 Tachwedd 2011
- 23 Tachwedd 2011
- 22 Tachwedd 2011