Lloyds: 200 o swyddi'n diflannu

Mae Grŵp Bancio Lloyds wedi cyhoeddi y bydd 700 o swyddi'n diflannu yn y Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd llefarydd y byddai 200 o swyddi'n diflannu yn swyddfeydd Caerdydd a Chasnewydd.

"Diswyddiadau gorfodol fydd y cam ola," meddai llefarydd.

Ym mis Mehefin roedd y prif weithredwr, Antonio Horta-Osorio, wedi cyhoeddi y byddai 15,000 o swyddi'n diflannu.