Cwch a thancer wedi taro'n erbyn ei gilydd
- Published
Roedd cwch pysgota mewn gwrthdrawiad â thancer olew oddi ar arfordir Aberdaugleddau yn oriau mân y bore.
Cadarnhaodd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau fod cwch y Deborah o Wlad Belg wedi taro'n erbyn y tancer 14 milltir oddi ar yr arfordir.
Roedd hyn am 1:15am.
Dywedodd Mark Andrews, Harbwr Feistr Aberdaugleddau: "Gallwn gadarnhau na chafodd neb ei anafu ac nad oedd llygredd o ganlyniad i'r digwyddiad."
90,000 tunnell
Roedd y tancer yn cludo 90,000 tunnell o olew craidd Môr y Gogledd, ac wedi cychwyn ei thaith o Ynysoedd Shetland.
Yn ôl y criw, roedd 'na ychydig o ddifrod i flaen y tancer dri metr uwchlaw'r dŵr ac yn ddigon pell o'r cargo neu danwydd.
Roedd y tancer i fod i gyrraedd y porthladd am 2pm ddydd Mercher ond bydd yn aros y tu allan i'r porthladd tra bod ymchwiliadau'n asesu maint y difrod.
Dywedodd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau fod arolygwr o'u swyddfa yn Aberdaugleddau wedi mynd allan ar gwch i asesu'r difrod i'r tancer ac y byddai'n sicrhau bod popeth yn ddiogel cyn caniatáu i'r tancer ddod i mewn i'r porthladd.