Ymchwiliad i ddamwain awyren ar ôl i ddau gael eu lladd

Bob Jones, sefydlydd a rheolwr Maes Awyr Canolbarth Cymru Image copyright BBC news grab
Image caption Sefydlodd Bob Jones y maes awyr ddechrau'r 1990au

Bydd yr awdurdodau'n yn ceisio darganfod beth oedd achos damwain ym Mhowys pan gafodd dau o bobl eu lladd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Dre'r Llai ger Y Trallwng tua 12pm ddydd Mercher oherwydd damwain awyren fechan.

Dywedodd llygad-dystion fod awyren saith sedd wedi disgyn ger Cefn Digoll ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Dydi enwau'r ddau fu farw ddim wedi'u cyhoeddi gan yr heddlu.

Ond mae pobl leol yn dweud mai Bob Jones, rheolwr a sefydlydd Maes Awyr y Canolbarth a pheilot profiadol, oedd un ohonyn nhw.

Busnesau lleol

Fe fydd Yr Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr yn archwilio gweddillion yr awyren ddydd Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal ar ôl i'r maes awyr gysylltu gyda nhw yn pryderu nad oedd yr awyren wedi dychwelyd ar ôl taith fer.

Fe wnaeth Mr Jones sefydlu'r maes awyr ar ei fferm.

Fe ddatblygwyd y maes awyr yn 1990 i wasanaethau busnesau a chwmnïau hedfan lleol.

Mae hofrennydd Ambiwlans Awyr y canolbarth yn hedfan oddi yno.

Fe weithiodd Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, yn agos gyda Mr Jones i ddatblygu'r maes awyr.

"Roedd Bob yn ffermwr lleol a oedd wrth ei fodd yn hedfan," meddai.

"Fe wnaeth benderfynu datblygu'r llain glanio.

"Mae 'na gwmnïau yng nghanolbarth Cymru rŵan na fyddai yma oni bai am Bob Jones."

Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan ddweud ei bod wedi ei thristau o glywed am y ddamwain ac yn cydymdeimlo gyda'r teuluoedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.