Iawndal hacio i Chris Bryant

Chris Bryant Image copyright PA
Image caption Credir fod Chris Bryant wedi derbyn £30,000

Mae mwy o bobl wedi cael iawndal yn yr Uchel Lys ar ôl i bapur News of the World wrando ar eu negeseuon ffôn.

Ymhlith y degau o bobl mae Aelod Seneddol Y Rhondda, Chris Bryant, Shaun Russell gollodd ei wraig a'i ferch wedi iddyn nhw gael eu lladd yng Nghaint yn 1996 a'r chwaraewr rygbi Gavin Henson.

Hefyd mae'r actor Jude Law a'r cyn-Ddirprwy Brif Weinidog, yr Arglwydd Prescott.

Mae dwsinau o achosion tebyg wedi bod yn erbyn News International.

Yn ôl adroddiadau, mae Mr Bryant wedi derbyn iawndal o £30,000.

Mae rhai penderfynu peidio â derbyn arian a mynd a'r cwmni i'r llys ym mis Chwefror.

Dywedodd Mark Thomson o gyfreithwyr Atkins Thomson fod ei gleientiaid yn ddewr yn herio sefydliad mor ddylanwadol â News International.

"Fe allan nhw fod yn falch eu bod wedi cymryd cam sydd wedi arwain at ymchwiliad yr heddlu, ymchwiliadau Seneddol ac Ymchwiliad Leveson."

Straeon perthnasol