Ceredigion: Hwb i gyfleusterau chwarae
- Published
Mae cymdeithas dai leol wedi cael £20,000 er mwyn gwella'i safleoedd chwarae yng Ngheredigion.
Dros y 12 mis nesaf, bydd Cymdeithas Tai Cantref yn datblygu ei safleoedd chwarae ar ei hystadau yn Llys Maes Amlwg Tregaron, Golwg y Castell Aberteifi, Cae Job a Pharc Dinas Aberystwyth, a Glannant Llechryd.
Gan weithio mewn partneriaeth gyda RAY Ceredigion o Aberaeron, dyfarnwyd y grant gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 er mwyn annog plant a phobl ifanc i chwarae yn yr awyr agored.
Defnyddir yr arian mewn safleoedd chwarae cymunedol a safleoedd agored sy'n cael eu tanddefnyddio ar ystadau tai.
'Cyfleoedd i blant'
Bydd gwaith tirlunio yn cael ei wneud mewn 4 safle chwarae sy'n bodoli eisoes, trwy ychwanegu drysfeydd helyg, strwythurau chwarae pren a banciau porfa.
Dywedodd Rhiannon Ling, swyddog adfywio cymunedol Cantref: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan blant a phobl ifanc rywle i chwarae, a'r ffordd y gall hyn helpu i greu cymunedau lleol cryf, gan wella'r ardal leol a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Bydd y cyllid yn ein helpu i wella'r cyfleusterau ar gyfer y cymunedau yr ydym yn gweithio gyda nhw, trwy gynnig cyfleoedd i blant chwarae mewn amgylchedd diogel."
Ariannir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae pencadlys Cantref yng Nghastellnewydd Emlyn ac mae'n darparu cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau tai ar gyfer bron i 3,500 o bobl ar draws Gorllewin Cymru.
Straeon perthnasol
- Published
- 10 Ionawr 2012
- Published
- 23 Rhagfyr 2011