Cytundeb mawr i gwmni tyrrau tyrbinau gwynt
- Published
Mae cwmni adeiladu tyrrau ar gyfer tyrbinau gwynt - Mabey Bridge - wedi sicrhau cytundeb gwerth miliynau o bunnau i gyflenwi 35 o dyrau.
Agorodd y cwmni ffatri newydd ar gost o £38 miliwn yng Nghas-gwent, Sir Fynwy, yn 2011 ac yno bydd y gwaith yn cael ei wneud.
Dywedodd y cwmni ei fod wedi recriwtio 45 o staff ychwanegol oherwydd y cytundeb ac y byddai 50 o weithwyr yn cael eu trosglwyddo o adain arall y cwmni sy'n adeiladu pontydd.
Bydd y tyrau rhwng 65 metr a 70 metr o hyd yn cael eu defnyddio gan gwmni Nordex ar nifer o safleoedd, gan gynnwys fferm wynt Pant-y-wal ger Y Rhondda.
Y rhain, meddai'r cwmni, fyddai'r tyrbinau cyntaf i gael eu gosod yng Nghymru ac wedi eu hadeiladu yng Nghymru.
Mae datblygwr y safle ym Mhant-y-wal, Pennant Walters, yn gobeithio gosod 14 o dyrau ar y safle erbyn Mehefin 2012.
Bydd y tyrbinau yn medru cynhyrchu hyd at 42 megawat o bŵer - digon i gyflenwi 25,000 o gartrefi.
Fe fydd gweddill y tyrbinau yn mynd i safle ger Thurso yn Yr Alban.
'Blwyddyn heriol'
Dywedodd cyfarwyddwr DU y cwmni, Alex Smale, fod y llynedd yn "flwyddyn heriol" i'r diwydiant tyrbinau gwynt am fod llai na 250 yn cael eu gosod yn y DU.
"... mae arwyddo cytundeb am 35 o dyrau gyda Nordex yn hwb mawr i staff Mabey Bridge.
"Mae'r farchnad yn gyffrous ar hyn o bryd ac rydym yn disgwyl gwneud cyhoeddiad pellach yn fuan."
Dywedodd Bryan Grinham, Rheolwr Gyfarwyddwr Nordex UK, fod ansawdd a phris yn ffactorau pwysig wrth roi'r cytundeb i Mabey Bridge.
"Ond hefyd roedd y ffaith fod rhan allweddol o'r tyrbinau yn cael eu hadeiladu yn y DU yn ddeniadol iawn i ni."
'Hyder'
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi dweud: "Mae hyn yn newyddion gwych, nid yn unig i'r economi yng Nghymru ond i'r diwydiannau gweithgynhyrchu ac ynni adnewyddol yn y DU gyfan.
"Ac mae'r cytundeb yn dangos yn glir hyder gwledydd Ewrop yn nawn a sgiliau ein gweithwyr yng Nghymru.
"Yn ogystal mae'r cyhoeddiad yn rhoi'r cyfle i ni ddangos bod Cymru'n chwarae ei rhan wrth sicrhau isadeiledd ynni'r DU i'r dyfodol."
Mae cwmni Mabey Bridge wedi bod yn adeiladu pontydd ers 162 o flynyddoedd.
Ond maen nhw wedi ehangu i faes tyrrau ar gyfer tyrbinau gwynt yn fwy diweddar.
Pan fydd y ffatri yng Nghas-gwent yn cyrraedd ei lawn dwf, bydd yn medru cynhyrchu 300 o dyrrau yn flynyddol.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Mai 2011
- Published
- 21 Mawrth 2011