Galw am wrthod codi cyflymder ar draffyrdd
- Cyhoeddwyd

Mae cynghrair o sefydliadau trafnidiaeth yng Nghymru yn dweud y dylai Cymru beidio dilyn cynllun i gynyddu'r uchafswm cyflymder ar draffyrdd o 70 i 80 milltir yr awr.
Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan ym mis Hydref 2011 y byddai ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun.
Ond wrth i'r ymgynghoriad ddechrau, mae cynghrair Trafnidiaeth Gynaliadwy Cymru yn dweud y bydd cyflymder uwch yn arwain at fwy o ddamweiniau, mwy o anafiadau a marwolaethau a mwy o allyriadau carbon.
Mae'r gynghrair yn cynnwys 25 o sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i grym i osod uchafswm cyflymder ei hun pe bai Llywodraeth San Steffan yn penderfynu ei newid yn Lloegr.
'Chwalu bywydau'
Dywedodd Lee Waters, cadeirydd Trafnidiaeth Gynaliadwy Cymru, bod gan Lywodraeth Cymru record dda ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
"Ond er mwyn cynnal hyn, rhaid i ni wneud penderfyniadau er lles pawb yng Nghymru, nid er lles yr ychydig.
"Hyd yn oed, heb y ddadl y byddai'r penderfyniad yn gallu cynyddu ein defnydd o olew ac allyriadau carbon mewn cyfnod lle mae'n rhaid i ni gwtogi'r ddau, fe allai'r penderfyniad hefyd chwalu bywydau teuluoedd."
Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad, dywedodd gweinidog trafnidiaeth llywodraeth y DU y byddai cynyddu cyflymder ar draffyrdd i geir, faniau ysgafn a beiciau modur "yn gallu creu cannoedd o filiynau o bunnau o fud i'r economi".
Ond ychwanegodd Mr Waters fod y cylchgrawn meddygol y BMJ wedi lleisio barn yn erbyn y newid, ac mae'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno, ac yn chwilio am ffyrdd eraill o gyflawni budd economaidd, megis trafnidiaeth gynaliadwy.
Mae Trafnidiaeth Gynaliadwy Cymru yn cynnwys Sustrans Cymru, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Cyfeillion y Ddaear a Defnyddwyr Bysiau Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2011