Lansio cynllun llyfrau i'r deillion
- Published
Bydd cynllun sy'n darparu llyfrau i ddeillion a phobl sydd yn ei chael hi'n anodd darllen print yn cael ei lansio ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.
Bydd Llyfrau Llafar Cymru yn cael ei lansio yn swyddogol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths, mewn seremoni yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd.
Flwyddyn yn ôl roedd dyfodol y cynllun mewn perygl.
Ffurfiwyd pwyllgor newydd yng Nghaerfyrddin a llwyddwyd i berswadio gweinidogion Llywodraeth Cymru bod y cynllun yn werth ei achub.
'Atebion ariannol'
Cychwynnwyd y gwasanaeth yn wreiddiol fel cynllun casetiau i'r deillion gan Rhian Evans o Gaerfyrddin dros 30 mlynedd yn ôl.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei reoli gan grŵp bychan yng ngorllewin Cymru.
Ers sefydlu'r cwmni newydd dan y teitl Llyfrau Llafar Cymru, lansiwyd apêl arbennig.
"Buom yn ddigon ffodus i dderbyn £35,000 i ail godi'r hen gynllun, "meddai Sulwyn Thomas, cadeirydd y grŵp newydd yng Nghaerfyrddin.
"Wrth reswm fe fydd y lansiad swyddogol yn gyfle gwych i ddiolch am y cyfraniad hollbwysig yna, diolch i'r gweinidogion am eu gweledigaeth, esbonio mwy am ein bwriad a dangos hefyd pa mor werthfawr yw'r cyfan i ddeillion a phobl sydd yn ei chael hi'n anodd darllen print.
"Y mae'r ymateb i'r apêl wedi bod yn rhyfeddol.
"Mewn deufis rydym wedi derbyn dros £5000.
"Mae hyn yn arwydd pendant bod cefnogwyr drwy Gymru gyfan yn gwerthfawrogi'r ymdrech a bod yn rhaid i'r cynllun barhau.
"Mae'n rhaid i ni chwilio am atebion ariannol o gyfeiriadau eraill hefyd .
"Un grant sylweddol y gallwn ei ddisgwyl o Fae Caerdydd yn y dyddiau ariannol helbulus hyn, felly mae 'na dalcen caled o'n blaenau,"meddai Mr Thomas.
'Deunydd o safon'
Er 1989, gweinyddwyd yr hen gynllun gan Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru.
Ond gan fod y gymdeithas yn wynebu trafferthion ariannol, roedd bygythiad i gau canolfan Caerfyrddin, diswyddo dau o staff, a symud catalog o ddwy fil o "lyfrau" Cymraeg a rhai Saesneg yn ymwneud â Chymru i'r ganolfan ym Mangor.
"Byddai hynny wedi bod yn golled aruthrol i dre Caerfyrddin, ac yn negyddu'r gwaith mawr a wnaed yma dros y blynyddoedd gan Rhian Evans ac eraill i baratoi deunydd o safon," meddai Mr Thomas.
"Mae'r catalog ei hun yn werthfawr, yn ddiwylliannol ac wrth gwrs fel cyfraniad sylweddol iawn i helpu pobl llai ffodus na ni.
"Y llynedd anfonwyd 4,000 o deitlau i ryw 400 o gwsmeriaid. Byddai colli'r adnodd hwn wedi bod yn drasiedi ar fwy nag un ystyr."
Bydd y lansiad yn digwydd ar 24 Ionawr, 2012 rhwng 12.30 pm ac 1pm yn Ystafell Gynhadledd 24 yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd.