Y prinder 'sy'n peryglu bywydau'
- Cyhoeddwyd

Mae Aelodau Cynulliad wedi clywed bod diffyg toiledau cyhoeddus yn golygu bod pobl fregus yn fwy tebygol o ddioddef trawiadau ar y galon a strociau.
Clywodd pwyllgor trawsbleidiol hefyd fod y prinder yn amharu ar waith plismyn am fod rhaid iddyn nhw ddychwelyd i'w gorsafoedd i ddefnyddio'r tŷ bach.
Roedd aelodau'r pwyllgor yn clywed tystiolaeth am oblygiadau diffyg cyfleusterau ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Clywon nhw fod nifer y toiledau cyhoeddus yng Nghymru wedi gostwng 40% yn ystod y degawd diwethaf.
Gyrwyr tacsis
Dywedodd Karen Logan o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan wrth Aelodau'r Cynulliad: "Mae ymatal rhag defnyddio'r bledren neu'r perfedd yn cynyddu cyflymder y galon a chynyddu pwysedd gwaed," meddai.
"Gallai pobl hen iawn, pobl sy'n sâl neu bobl fregus ddioddef trawiad ar y galon neu strôc.
"Ond tybiaeth yw hyn am nad oes tystiolaeth ar gael ynghylch faint o weithiau mae hyn wedi digwydd."
Clywodd ACau dystiolaeth gan gyfarwyddwr Cymdeithas Toiledau Prydain, Mike Bone, a ddywedodd fod nifer y toiledau cyhoeddus yng Nghymru wedi gostwng 40% yn ystod y degawd diwethaf.
Ychwanegodd fod pobl sy'n gweithio mewn cerbydau, gan gynnwys gyrwyr lorïau, gyrwyr tacsis, gweithwyr cynnal a chadw ffyrdd a phlismyn yn dioddef oherwydd ddiffyg toiledau cyhoeddus.
'Problem fawr'
"Mae yna adroddiadau bod plismyn wedi gorfod dychwelyd i'w gorsafoedd heddlu am nad oedden nhw'n gallu dod o hyd i doiled cyhoeddus.
"Rydych chi'n gallu dychmygu'r gost o ran eu hamser.
"Yn ogystal dydyn nhw ddim ar gael i ddelio â throseddau tra'u bod nhw'n gwneud hyn."
"Eisoes rydyn ni wedi clywed am yrwyr loriau sydd wedi cael eu dirwyo am ddefnyddio encilfa fel toiled wedi iddynt fethu dod o hyd i doiled mewn pum tref wahanol.
"Mae hon yn broblem fawr."
Dywedodd Gillian Kemp, o Rwydwaith Syndrom coluddyn llidus: "Rwyf wedi clywed am ddigwyddiad lle hysbyswyd plismyn i beidio yfed gormod o ddŵr i'w atal rhag dychwelyd i'r orsaf heddlu.
"Mae hyn yn hollol annerbyniol."
Nid oes ffigyrau am leihad nifer y toiledau cyhoeddus yng Nghymru ar gael.
Nid oes gan awdurdodau lleol ddyletswydd yn ôl y gyfraith i ddarparu toiledau cyhoeddus.
Straeon perthnasol
- 9 Hydref 2011
- 23 Gorffennaf 2011
- 14 Mehefin 2011