Undeb yn galw am wybodaeth ariannu
- Cyhoeddwyd

Mae undeb athrawon yr ATL wedi beirniadu penderfyniad i beidio cyhoeddi ffigyrau sy'n dangos y bwlch ariannu rhwng disgyblion yng Nghymru a Lloegr.
Ers datganoli, mae'r gwahaniaeth rhwng yr arian sy'n cael ei wario ar bob disgybl gan gynghorau yn cael ei gyhoeddi gan uned ystadegau Llywodraeth Cymru.
Mae prif ystadegydd y llywodraeth, Kate Chamberlain, wedi amddiffyn y penderfyniad.
Dywedodd llefarydd fod y twf mewn ysgolion academi yn Lloegr yn golygu na fyddai'r gymhariaeth bellach yn gyson.
Mae adroddiadau blynyddol yn dangos fod y bwlch rhwng gwariant awdurdodau addysg yng Nghymru a Lloegr wedi tyfu dros y blynyddoedd.
Yn Ionawr 2011, datgelwyd fod cynghorau Cymru yn gwario £604 yn llai ar gyfartaledd ar bob digybl o'i gymharu â chynghorau yn Lloegr.
Dywedodd cyfarwyddwr ATL Cymru, Dr Philip Dixon: "Rwyf wedi fy syfrdanu nid yn unig gan gynnwys y cyhoeddiad, ond y dull cafaliraidd y cafodd ei wneud.
"Does neb yn edrych ymlaen at adrodiad blynyddol o dan-wario ar ein plant, ond o leiaf roeddem yn edmygu'r gonestrwydd.
"Dylai'r uned ystadegau ailystyried y penderfyniad yma ar frys.
"Byddai'n llawer gwell cyhoeddi'r wybodaeth gyda nodiadau am gymariaethau sy'n nodi'r trafferthion wrth eu paratoi, yn hytrach na chael eich gweld fel atal gwybodaeth allweddol.
"Mae'r cyhoeddiad hefyd yn gosod y Gweinidog Addysg mewn sefyllfa annymunol gan ei fod wedi addo'n gyson i leihau'r bwlch ariannu.
"Does dim modd i ni wybod nawr os yw ei waith yn dwyn ffrwyth."
'Ymwybodol o'r diddordeb'
Dywedodd llefarydd ar ran y prif ystadegydd mai hi oedd yn gyfrifol am y penderfyniad ac y byddai'r sefyllfa'n cael ei adolygu.
Dywedodd: "Daeth y prif ystadegydd i'r casgliad nad oedd modd i ni gyhoeddi'r ffigyrau eleni oherwydd newidiadau i dirlun polisi addysg yn Lloegr a'r nifer fawr o ysgolion sy'n symud i statws academi ac felly allan o reolaeth awdurdodau lleol.
"Mae'r prif ystadegydd yn ymwybodol o'r diddordeb yn y gymhariaeth, ond nid yw ei hystadegwyr wedi medru canfod ffordd o greu cymhariaeth gyson ar gyfer cyllidebau 2011-12."
Mae undeb yr NUT wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ffigyrau i Gymru hyd yn oed os nad oes modd creu cymhariaeth gyda Lloegr.
Dywedodd ysgrifennydd yr undeb, David Evans: "Rydym yn siomedig iawn na fydd y ffigyrau yma'n cael eu cyhoeddi.
"Gallai Llywodraeth Cymru o leiaf fod wedi medru cyhoeddi manylion ariannu disgyblion yng Nghymru heb y gymhariaeth.
"Mae yna dan-wariant ar addysg yng Nghymru sydd yn cael effaith niweidiol ar allu athrawon i gynorthwyo plant i gyrraedd eu potensial."
Ychwanegodd Mr Evans y byddai'n ysgrifennu ar y gweinidog addysg - Leighton Andrews - a'r prif weinidog Carwyn Jones i fynegi siom ei undeb.
Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi beirniadu'r cyhoeddiad.
Straeon perthnasol
- 26 Ionawr 2011
- 19 Ebrill 2011